Cefnogaeth ac Ymgynghoriaeth Rheoli

Mae gan Andy brofiad o ddarparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer sefydliadau gwirfoddol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Targedir cefnogaeth bob amser ar gyfer anghenion arbennig y sefydliad dan sylw. Disgrifir rhai o’r dulliau y mae Andy yn eu defnyddio isod, cysylltwch ag Andy a chroeso i drafod eich amgylchiadau arbennig.

Hyfforddiant ar gyfer sefydliadau gwirfoddol

Mae Andy yn cynnig hyfforddiant wedi ei dargedu at reolwyr y sector wirfoddol gan dynnu ar ymarfer gorau’r sector ac wedi’i seilio ar ei brofiad o fod yn y pen dwfn.

Mae’r hyfforddiant wedi’i deilwra yn ôl anghenion y grŵp ac yn nodweddiadol mae’n cynnwys ystod o ffurfiau gan gynnwys mewnbwn y tiwtor, trafodaeth grŵp, ac ymarferion. Bydd yr hyfforddiant yn anelu at eich herio ac yn ysbrydoli cyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain.

Mae rhywfaint o’r hyfforddiant a gynigir gan Andy yn cael ei ddisgrifio isod. Cysylltwch ag Andy i drafod eich anghenion arbennig os gwelwch yn dda.

Dyddiau Arolwg

Mae Ddyddiau Arolygu yn rhoi cyfle i chi gamu’n ôl o’r gwaith bob ddydd gyda’ch staff, pwyllgor a gwirfoddolwyr, a rhoi cyfle i feddwl am yr hyn sydd ei angen, beth sy’n gweithio a gosod eich blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Bydd Andy yn eich helpu i gynllunio a hwyluso’r diwrnod i sicrhau y cewch chi’r gorau ohono.

Cynllunio eich Busnes

Mynnwch fod yn gyfrifol am y dyfodol! Adolygwch eich gweledigaeth, deallwch eich cryfderau a’ch mannau gwan, dodwch eich defnyddwyr gwasanaeth yn gyntaf, gosodwch eich amcanion SMART, a gwnewch achos cymhellol ar ran eich sefydliad. Gall Andy dywys eich sefydliad drwy’r broses o gynllunio busnes, gan gynorthwyo yn ôl y galw i adolygu eich gwaith presennol, a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd Andy yn eich annog i feddwl yn greadigol wrth ddarganfod atebion i ddelio ag anghenion eich defnyddwyr gwasanaeth / cwsmeriaid.

Mentora ac Arolygaeth

Ffynhonnell allanol o gefnogaeth neu arolygaeth ffurfiol ar gyfer rheolwyr ynysig, gan gynnig man saff i drafod anawsterau, ail ganolbwyntio a datblygu strategaethau datrys problemau. Mae gan Andy gryn dipyn o brofiad o ran rheoli staff, ac o weithio ar ran pwyllgor o ymddiriedolwyr. Mae ar gael i fentora a darparu goruchwyliaeth allanol ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio i bwyllgorau sy’n ymdrechu i gael amser i reoli.

Ymgynghoriadau Iechyd

Adolygiad annibynnol o arwyddion bywyd sefydliad, gan ganolbwyntio ar drefn lywodraethol, anghenion defnyddiwr gwasanaeth, pobl ac adnoddau. Gall Andy eich helpu i ystyried eich safle a beth ydyw eich blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Gwiriad Iechyd yn golygu cyfweliad pellgyrhaeddol gyda’r rheolwr / staff allweddol, a holiaduron i’r ymddiriedolwyr, staff cyflogedig a gwirfoddolwyr. Bydd Andy yn darparu adroddiad manwl, gan godi pynciau llosg a’ch cynorthwyo i gynllunio gwaith y dyfodol.

Cynllunio Busnes a Strategol

Mae sesiynau modwlar ar gael, sy’n llywio cyfranogwyr drwy’r broses cynllunio busnes o benderfynu pwy sy’n cymryd rhan a sut mae gwerthuso’r broses ac adolygu’ch perfformiad. Mae’r hyfforddiant yn gosod y cwsmer neu ddefnyddiwr y gwasanaeth yng nghanol y broses - gan strwythuro’r cynllun o amgylch eu hanghenion hwy.

Defnyddir ymarferion i ddatblygu deallusrwydd ac annog cyfranogwyr i ddefnyddio’u sgiliau cynllunio. Mae’r sesiynau yn ceisio datblygu creadigrwydd y cyfranogwr a’u hannog i ailedrych ar ffordd orau i ateb angen eu defnyddwyr gwasanaeth.

Hyfforddiant ar gyfer Pwyllgorau

Llywio llwybr drwy rolau a chyfrifoldebau cymhleth ymddiriedolwr elusen. .

Creadigrwydd a Entrepreneuriaeth

Hyfforddiant i’ch cynorthwyo chi i ddarganfod creadigrwydd cudd eich pobl i ddarganfod atebion newydd i broblemau hir dymor neu ail ddylunio beth allwch wneud i gyfarfod â sialensiau newydd.

Defnyddio technegau ymarferol, wedi eu defnyddio a’u profi a fydd yn eich cynorthwyo i roddi’r cwsmer neu ddefnyddiwr gwasanaeth yng nghanol eich sefydliad ac awdurdodi staff a gwirfoddolwyr i gymryd penderfyniadau sy’n arwain at sefydliad mwy creadigol, deinamig gyda ffocws bendant.

item7a item6a item5a