Ynglŷn ag Andy ......

 

Mae Andy yn byw yn Pont Rhyd y Bont, Sir Fôn, symudodd yno gyda’i deulu yn 2003.

Mae gan Andy 18 mlynedd o brofiad o weithio mewn sefydliadau gwirfoddol ar lefelau lleol, rhanbarth a chenedlaethol. Ei swydd fwyaf diweddar yn y sector oedd fel Prif Weithredwr DIAL UK, rhwydwaith cyngor anabledd cenedlaethol.

Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ym mhen dwfn y sector gwirfoddol, gan geisio darparu gwasanaethau o safon tra’n jyglo rhwng sialensiau cystadleuol codi arian, cefnogaeth gwirfoddolwyr ac anghenion cefnogwyr ariannol.

Mae profiad Andy o gefnogi grwpiau gwirfoddol yn cynnwys cynnal llinell gymorth cefnogi rheolwyr – yn rhoi cyngor ymarferol ar faterion go iawn, cyflenwi hyfforddiant rheoli a darparu cefnogaeth ymgynghoriaeth ar y safle.

Mae gwirfoddolwyr yn angenrheidiol – maent yn cadw pobl yn rhan o’u cymunedau a dangos y gwerth aruthrol y gellir ei gael drwy, yn syml, pobl yn cefnogi ei gilydd.

item6a item5a item4a